Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Tymaen

Am Tymaen

Maes Parcio o faint canolig a safle picnic yn ôl o'r ffordd fawr yng nghysgod coed aeddfed. Mae'r maes parcio'n cau am 5 o'r gloch yr hwyr. Mae'n daith gerdded pum munud o ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed. Yn ogystal â lle i barcio ar gyfer tua 20 o geir, mae gan Ty Maen safle barbyciw a phicnic hefyd, a llanerch fach yn agos i'r maes parcio. Mae'n fan cychwyn arall am y cwrs cyfeiriadu ac yn rhoi mynediad i rwydwaith o lwybrau coedwig a'r teithiau cerdded dynodedig gwyrdd a brown.

Sut i gyrraedd:

Mae Tymaen ym Mharc Coedwig Afan sy'n rhan o Barc Coedwig Afan
Mae Ty Maen ychydig i ffwrdd o'r A4107, tua 300 llath i'r gorllewin o Ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed.
Cynonville yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SS 815 949
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:

InformationParking

Gweithgareddau:

CyclingBarbecue
Walking Llwybr Tarren Forgan

Cyswllt:

Jon Price

0300 068 0300
e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Mae safle hen ysgubor Ty Maen, enghraifft ddiddorol o adeilad fferm cynnar, yn hawdd ei gyrraedd o'r maes parcio.

Llwybrau Beicio Afan
1,105Mb PDF


Tudalennau cysylltiedig