Mae’r Llwybrau ym Mharc Coedwig Afan yn cynnig rhai o’r profiadau beicio mwyaf cyffrous yng Nghymru gyda ffyrdd i lawr sy’n plymio’n sydyn a llwybrau bwrdd technegol, rhywbeth i bawb yn wir. Hefyd mae’r llwybr teulu ‘Rheilffordd’ yn cysylltu’r ddwy ganolfan a bydd llwybrau pob gallu glas a gwyrdd newydd yn dod yn 2012.

Llwybrau Teulu
Ar hyn o bryd mae gennym y llwybr teulu Rheilffordd sy’n cysylltu’r dyffryn cyfan ar feic ac erbyn mis Ebrill 2012 bydd gennym lwybr gwyrdd newydd cyfan yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Afan.
- Rheilffordd
- Dod yn fuan - Llwybr Gwyrdd>

Ardal Sgiliau
Erbyn canol 2012 bydd gennym ardal sgiliau beicio mynydd newydd ac ardal sgiliau plant wedi’u cwblhau.

Llwybrau Glas
Bydd y llwybrau hyn yn cyflwyno beicwyr mynydd newydd i feicio oddi ar y ffordd. Bydd darn newydd o’r llwybr glas yn agor yn Ebrill 2021 a bydd llwybr glas (gyda dolen goch) yn seiliedig ar hen lwybr Penhydd ar agor erbyn diwedd 2012.

Llwybrau Coch
Mae gennym 2 lwybr sydd wedi’u graddio’n goch:
• Y Wal sy’n dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
• Whites Level yn dechrau o Ganolfan Feicio Mynydd Glyncorrwg
• Yn dod yn fuan: llwybr coch gyda dolen las yn seiliedig ar hen lwybr Penhydd

Llwybrau Du
Mae gennym ddewis o lwybrau hir a darnau i lawr:
• Mae W2 yn cysylltu’r ddau lwybr coch a gellir ei ddechrau o’r naill ganolfan neu’r llall
• Skyline - llwybr hir gwreiddiol a’r un gorau yn dechrau o Lyncorrwg
• Darn du ‘Tyle’ ar y Whites Level.

Pa lwybr sy’n iawn i chi?
Graddiwyd y llwybrau er mwyn rhoi syniad i chi am pa mor anodd y maen nhw. Darllenwch yr wybodaeth am raddio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dewis llwybr beicio mynydd sy’n addas i chi. Canllaw ar ddewis llwybr




