Am Maes Parcio Gwaun Hepste
Porth i Lwybr y Pedair Rhaeadr
Gerllaw Ystradfellte, Powys, y maes parcio hwn yw un o’r prif bwyntiau mynediad at y rhaeadrau. Gosodwyd peiriant talu ac arddangos ac mae hwn yn help i dalu am oruchwyliwr i’r meysydd parcio.
O’r maes parcio hwn gallwch roi cynnig ar Lwybr enwog y Four Falls, a gweld rhaeadrau Sgwd yr Eira a Chlun-Gwyn. Dilynwch yr arwyddbyst coch a rifwyd, ac mae cyfeirbwyntiau gwyrdd yn mynd i lawr i’r rhaeadrau.
Byddwch yn ofalus wrth y dŵr gan y gall yr afonydd fod yn beryglus. Mae’r dŵr yn aml yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gyflym. Mae’r tir gerllaw’r rhaeadrau yn serth, yn arw ac yn llithrig hefyd. Cadwch at y llwybrau er mwyn osgoi erydu diangen.
Sut i gyrraedd:
Anelwch am y gogledd o Benderyn ar yr A4059. Ar ôl 2 km trowch i'r chwith i gyfeiriad Ystradfellte. Dilynwch yr arwyddion am y Rhaeadrau.
Ystradfellte yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 936 126
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:

Gweithgareddau:
![]() |
Llwybr y Pedair Rhaeadr |
Cyswllt:
Llanymddyfri Office0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk

