Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Glasdir maes parcio a safle picnic

Am Glasdir maes parcio a safle picnic

Lleolir y prif faes parcio gerllaw'r safle picnic gyda barbiciw wrth ymyl yr Afon Las hyfryd, a man cychwyn llwybrau Glasdir. Yn ogystal ceir maes parcio ychwanegol i'r anabl gyda mynediad rhwydd at fwrdd picnic a'r llwybr pob gallu ar gopa'r Gweithfeydd Copr. Er mwyn cyrraedd maes parcio'r anabl parhewch ar hyd y ffordd tarmac a throwch yn sydyn i'r chwith i fyny rhiw serth, trowch i'r dde wrth y groesffordd ar ben y rhiw ac mae'r maes parcio ar y dde ar ôl mynd dros y bont garreg.

Sut i gyrraedd:

Dwyrain o’r A470 yn dilyn yr arwyddion twristiaeth brown ar gyfer Tyn y Groes. Dilynwch yr heol darmac i’r de heibio safle picnic Tyn y Groes am ychydig dros gilometr. Mae’r maes parcio ar y dde gyda safle picnic yn dro bach i ffwrdd dros yr heol.
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 737 225
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
HEN GWAITH GOPR, GLASDIR, COED-Y-BRENIN

Cyfleusterau:

Parking

Gweithgareddau:

Arboretum
Walking Mynediad agored, Llwybrau wedi eu marcio a milltiroedd o hawliau tramwy.
Llwybr Copr Glasdir
Cycling Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog.
HorseRiding.gif Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog.

Cyswllt:

Graeme Stringer
Rhodiwr Hamdden

e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol