Am Dolgefeiliau
Mae'r maes parcio a'r safle picnic wedi cau tra bod y ganolfan ymwelwyr newydd yn cael ei adeiladu. Mae'r cwrs Cyfrifiannu ar agor o hyd, gwlewch uwchlaw am fanylion am
leoliad y maes parcio newydd.
Sut i gyrraedd:
I'r dwyrain oddi ar yr A470 ychydig i'r gogledd o Ganllwyd, ac i'r de o Fronaber.
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 722 269
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:
Gweithgareddau:
![]() |
Mynediad agored,a milltiroedd o hawliau tramwy. |
![]() |
Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog. MBR |
![]() |
Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog. |
![]() |
Pysgota am eog, sewin, brithyll. Trwyddedau gan Gymdeithas Pysgota Prysor. |
![]() |
Mae man cychwyn y cwrs cyfeiriadu wedi cael ei symud tra bod gwaith adeiladu canolfan ymwelwyr newydd yn mynd ymlaen. Trowch yn ôl tuag at y briffordd, ac ewch i’r dde i gyfeiriad Trawsfynydd ac yna ewch am y troad cyntaf i’r dde, yn ôl fewn i’r goedwig ( ger y teliffon SOS oren). Gyrrwch fyny’r ffordd tarmac newydd hyd nes cyrhaeddwch yr hen ysgubor ar y llaw dde o’r ffordd. Parciwch yn yr encilfa yma, mae’r cwrs cyfeiriadu’n cychwyn ar draws y ffordd, islaw rheolfa 3. Mae’n bwysig nodi fod rheolfeydd 1,2, a 20 wedi cael eu symud. Mae hyn er mwyn lleihau'r anghenraid i gyfeiriadwyr groesi'r safle adeiladu. Cadwch i ffwrdd oddi wrth yr ardaloedd sydd wedi’u ffensio/tapio ffwrdd a chymerwch sylw o bob arwydd os gwelwch yn dda. Byddwch yn ymwybodol fod traffig adeiladu ar y safle a chymerwch ofal wrth groesi/cerdded ar lwybrau/ffyrdd y goedwig. |
Cyswllt:
Graeme StringerRhodiwr Hamdden
e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk





