Canolfan Ymwelwyr Maesgwm
GELLIR DOD O HYD I DVD O'R PARC COEDWIG WEDI EI DYNNU O'R AWYR A THAFLENNI GWYBODAETH AM Y LLWYBRAU AR GYFER BEICIO MYNYDD A LLWYBRAU CERDDED DRWY DDILYN Y DOLENNI AR OCHR DDE I'R DUDALEN.
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin yw canolbwynt y Parc Coedwig hardd hwn. Mae’n glodfawr am ei lwybrau beicio mynydd sydd o’r radd flaenaf, sy’n cynnig tro bywiogol a heriol mewn coetir. Mae bwyty/caffi clyd a siop feiciau (gwerthu, atgyweirio, llogi) ar y safle - oriau agor fel y rhestrwyd. Mae taflenni gwybodaeth ar nifer o lwybrau cerdded i’r rheiny sydd ar eu deudroed, ac mae ardal chwarae bob gallu a llwybr pob gallu sy’n arwain at y safle picnic nesaf i’r ganolfan ymwelwyr.
Oriau Agor: Mae bwyty/caffi "Bwyd y Brenin" ar agor 7 diwrnod yr wythnos, o 10am tan 4pm Llun i Wener a 9am tan 5pm Sadwrn a Sul.
Ymholiadau: 01341 440742.
Y Siop Feiciau- "Beics Brenin" -
1 Mai tan 30 Medi: ar agor 7 diwrnod yr wythnos, o leiaf 10am – 5pm – Gan gynnwys llogi beiciau
1 Hydref tan 31 Tachwedd: ar agor 5 niwrnod yr wythnos, 10am – 5pm neu gyfnos. Ar gau Mawrth a Mercher.
1 Rhagfyr tan 28 Chwefror o leiaf 3 diwrnod, 10am tan 5pm neu gyfnos. Ar gau Llun i Iau.
1 Mawrth tan 30 Ebrill 5 niwrnod 10am – 5pm neu gyfnos. Ar gau Mawrth a Mercher.
Ymholiadau: 01341 440728.
Walking trails
Cycling trails
Sut i gyrraedd:
Canolfan Ymwelwyr Maesgwm is in Coed y Brenin. Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
Mannau eraill i fynd i mewnCoed y Brenin