Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Hiraethog

Am Hiraethog

Mae’r goedwig hon i’r de-orllewin o Ruthun, ac mae’n ymestyn dros 6000 hectar (15000 erw). Er ei bod yn goedwig fasnachol mae yma ddigon o le i chi fwynhau gwahanol weithgareddau a’r tawelwch pur. Dyma un o noddfeydd olaf y Wiwer Goch. Mae’n ardal eang o goed conifferaidd. Ceir yma lawer mwy o rywogaethau nag sy’n arferol mewn coedwigoedd o’r fath, yn enwedig Sbriws Norwy, Pinwydd a Llarwydd. Mae adeiledd y goedwig yr un mor amrywiol, ac yn cynnwys mannau clir lle buwyd yn torri coed yn ogystal â chlystyrau o goed sbriws a phinwydd a blannwyd dros ddeng mlynedd a thrigain yn ôl.

Sut i fynd yno:

Ruthin yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Dilynwch y B5105 o Ruthun. Dilynwch y B5105 neu’r B4501 o Gerrigydrudion.

Cyfeirif Grid yr OS: SJ000530
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Lleoedd i fynd:Hiraethog

Alwen
Clocaenog

Lleoedd eraill i ymweld â hwy yn yr ardal hon

Gweithgareddau:

WalkingCyclingHorse RidingFishingWatersportsWildlife ActivitiesView Point
horse riding Mynediad agored i farchogwyr.

Cyswllt:

Mike Whitley
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk

Llun - Ffurflen Hiraethog Troen Cerdded

Beth sydd o ddiddordeb

Hiraethog Wayward Walks Leaflet Part I

Hiraethog Wayward Walks Leaflet Part II

CCW Website for current and future closures as determined by the CRoW 2000 Act.

Mae Mynydd Hiraethog yn ardal fynyddig eang gyda thirwedd donnog. Mae’n ddistaw iawn yma, a dyma un rheswm pam y mae’n gartref i un o’r poblogaethau olaf o’r Wiwer Goch yng Nghymru. Mae hefyd yn ardal allweddol i’r Rugiar Ddu sy’n dal i brinhau. Gan nad oes traffig yma, mae’n lle delfrydol i’r teulu feicio a marchogaeth.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.


Tudalennau cysylltiedig