Am Llyn Geirionydd
Llyn llawn hanes
Llyn 3/4 milltir o hyd yng Nghoedwig Gwydyr yw Llyn Geirionnydd ac yn ôl yr hanes dyma gartref Taliesin, y bardd o’r 6ed ganrif.
Nid yw’n arbennig o hawdd cyrraedd Llyn Geirionnydd ond nid yw hynny wedi rhwystro’r llyn rhag cael ei ddynodi fel yr unig lyn yn Eryri lle caniateir cychod pŵer a sgïo dŵr. Mae llawer o ymwelwyr yn cerdded at y llyn hefyd o bentref Trefriw (mae ar un o lwybrau Trywydd Trefriw) neu o lyn cyfagos Crafnant (lle mae gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru faes parcio). Gwahanir y ddau llyn gan Fynydd Deulyn.
Mae maes parcio wrth ymyl Llyn Geirionnydd (toiledau yn yr haf yn unig) ac mae’n boblogaidd iawn yn yr haf.
Mae’n anodd dychmygu fod hon yn dirwedd ddiwydiannol ddiffaith yn y 1870au. Yn wir, saif y maes parcio ar domen wastraff wrth ymyl mynedfa hen waith plwm.
O’r fan hon gallwch gerdded o amgylch y llyn neu, os ydych yn teimlo’n ffit, drosodd i Lyn Crafnant a’i golygfeydd hyfryd, lle mae modd cerdded o amgylch y llyn hwnnw.
Sut i gyrraedd:
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Mannau eraill i fynd i mewnGwydyr

Gweithgareddau:
![]() |
Geirionydd i crafnant |
![]() |
Cysylltwch â swyddfa Coedwig Llanrwst i drefnu ymweliadau addysgol. |
![]() |
Caniateir sgio dwr a canwo ar Lyn Geirionydd |
Cyswllt:
Gareth Jones0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones



