Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Llyn Crafnant

Am Llyn Crafnant

Llyn Crafnant  

Porth at un o’r golygfeydd hyfrytaf yng Ngogledd Cymru
Mae Llyn Crafnant yn llyn 3/4 milltir o hyd (wel, cronfa ddŵr, a dweud y gwir) sy’n gorwedd mewn dyffryn hardd lle mae ymyl ogleddol Coedwig Gwydyr yn cwrdd â llethrau isaf mynyddoedd y Carneddau ac, yn fwy penodol, crib Cefn Cyfarwydd.

Mae pen y dyffryn yn cynnig yr hyn y gellid ei ystyried yn un o’r golygfeydd hyfrytaf, ar draws y llyn at y mynyddoedd uwchlaw, yng Ngogledd Cymru.

Daw enw Crafnant o “craf”, hen air Cymraeg am arlleg, a “nant”. Hyd yn oed heddiw mae dyffryn Afon Crafnant yn arogleuo o arlleg gwyllt pan fydd yn ei flodau.

Mae gennym faes parcio a thoiledau ychydig cyn cyrraedd y llyn. Mae yma gaffi preifat ar lan y llyn (ar agor o’r Pasg tan ddiwedd yr haf) lle gallwch logi cychod. Ni chaniateir cychod preifat na nofio.

Rhowch gynnig ar y ddwy daith drwy’r goedwig o’r fan hon

 

 

Sut i gyrraedd:

Cyfarwyddiadau:
Gallwch gyrraedd y llyn mewn car o Drefriw yn Nyffryn Conwy, er bod llawer o ymwelwyr yn cerdded yno o’r pentref neu o lyn cyfagos Llyn Geirionnydd, sy’n gorwedd ochr yn ochr â Chrafnant. Caiff y ddau lyn eu gwahanu gan Fynydd Deulyn. Gall cerddwyr gyrraedd y llyn hefyd o Gapel Curig.
Cymerwch y B5106 i Drefriw o Gonwy neu Fetws y Coed, yna dilynwch yr arwyddion am Lyn Crafnant.
Cyfeirnod Grid yr OS: SH 757 618
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Trefriw yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 757 618
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
GOLYGFA TUAG AT HENDRE & LLYN CRAFNANT

Cyfleusterau:

Toilets

Gweithgareddau:

Picnic
Walking Cylchdaith Llyn Crafnant
Geirionydd i crafnant
Educational Cysylltwch â swyddfa Coedwig Llanrwst i drefnu ymweliadau addysgol.
Fishing Pysgota am frithyll a brithyll seithliw yn Llyn Crafnant. Trwyddedau ar gael yn y Bwyty ar lan y llyn.

Cyswllt:

Gareth Jones

0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones

Beth sydd o ddiddordeb

Tudalennau cysylltiedig