Am Hafna
Hafna
Hen weithfeydd plwm Gwydyr
Mae’r maes parcio hwn wrth droed gweddillion hen waith plwm Hafna a dyma’r porth at Lwybr Mwynwyr Gwydyr.
Mae llethrau Gwydyr yn frith o dwnelau a cheudyllau eang lle bu cenedlaethau o fwyngloddwyr yn gweithio i echdynnu mwyn plwm a sinc.
Mae'r llwybrau'n eich arwain ar draws llethrau bryniau sydd o dan orchudd o goed, heibio i hafnau dwfn, siafftiau chwareli, mynedfeydd i dwnelau a melinau diffaith lle câi’r creigiau eu prosesu. Mae'r golygfeydd achlysurol yn werth eu gweld ac yn cynnig gwrthgyferbyniad rhwng tirwedd ddiwydiannol y gorffennol a'r harddwch heddychlon sydd bellach yn goruchafu.
Cadwch olwg am y paneli a’r pyst MP3 llwybr sain ar hyd y ffordd sy’n adrodd hanes y mwyngloddiau a’r dynion a weithiai ynddynt.
Sut i gyrraedd:
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Mannau eraill i fynd i mewnGwydyr

Cyfleusterau:

Gweithgareddau:
![]() |
Golygfeydd dros Ddyffryn Conwy |
![]() |
Mynediad Agored – Coedwig Beddgelert; Coedwig Gwydyr ar wahan i:Coed Celyn, Soflen, Moel y Ci & Braichmelyn:SYLWER OS GWELWCH YN DDA FOD YNA DDEFNYDD MAWR O FEICIAU MYNYDD YNG NGOGLEDD GWYDYR:Hefyd Mynediad Agored drwy De Gwydyr a Hafod Fawr, ond nid oes yna ddarpariaeth parcio. Y lleoedd orau ar gyfer dadlwytho yw Gwydyr Uchaf, Cae’n y Coed,Sarnau,Hafna,Pont Cae Groes a Beddgelert |
Cyswllt:
Gareth Jones0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk


