Tynybedw
Llecyn hardd a llydan o Ffynidwydd Douglas yw un o uchafbwyntiau'r coetir cymysg deniadol hwn sydd yn cynnig dau lwybr dynodedig.
Sut i gyrraedd:
Llanafan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Dilynwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed. Dilynwch y ffordd hon trwy Drawsgoed nes i'r ffordd groesi Afon Ystwyth a throwch yn syth i'r chwith, gan ddilyn yr afon. Mae'r maes parcio a safle picnic (nis redir ar hyn o bryd gan Fenter Coedwigaeth) ar y chwith sawl can metr ar ôl y felin lif.
Cyfeirif Grid yr OS: SN694715
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Tynybedw Picnic Site