Nant yr Arian
Mae’r ardal goedwig hon yn cynnwys un o brif gyfleusterau hamdden yr Ardal Goedwig: Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian (ar agor 10yb i 5yh yn yr haf, 10yb i’r machlud yn y gaeaf). Mae’r goedwig ar lun pedol uwchben dyffryn dwfn sydd yn ymestyn pob cam i’r môr 10 milltir i ffwrdd. Mae’r golygfeydd yn aruthrol, ac mae rhywbeth ar gael i bawb yn y teulu yma, o deithiau cerdded dynodedig a llwybrau beicio mynydd i wylio’r Barcudiaid Cochion yn cael eu bwydo bob dydd. Mae lluniaeth ysgafn ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Sut i gyrraedd:
Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.
10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd. Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.
Cyfeirif Grid yr OS: SN718813
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian Man Prynu Coed Nadolig Nant yr Arian