Brechfa
Gradd lliwiau heddiw: wedi troi'n felyn 
Amgylchynir safle picnic Abergorlech gan Dderw Cochion sy’n ffurfio arddangosfa wych o liwiau’r hydref.Yn ogystal mae Byrgwm yn le rhyfeddol i gychwyn ar daith gerdded hydrefol gan fod yna goetir cymysg prydferth ar hyd y ffordd.
Sut i gyrraedd:
Abergorlech, Brechfa, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanbedr-Pont Steffen, a Gaerfyrddin yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Mae'r A482 (Llanbedr-Pont-Steffan i Llanymddyfri), yr A40 a'r A485 (Llanbedr-Pont-Steffan i Gaerfyrddin) yn amgylchynu'r goedwig. Ceir nifer fawr o ffyrdd sydd yn arwain at Goedwig Brechfa, ac mae Abergorlech a Brechfa'n bentrefi bach yn ymyl Coedwig Brechfa ar ffordd y B4310. Dilynwch yr A482 rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanymddyfri hyd at y tro am Lansawel (B4302). Wedi cyrraedd Llansawel, dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.
Cyfeirif Grid yr OS: SN585340
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Safle Picnic Byrgwm
Llety'r Cipar
Safle Picnic Abergorlech