Am Coedydd Caerffili
Ar y llethrau uwchben Caerffili rhwng cominau Caerffilli a Rhydri, mae'r coetiroedd hyn yn hawdd eu cyrraedd ar droed ac ar gefn beic neu cheffyl. Mae tystiolaeth ar hyd y coed o weithgareddau diwydiannol yn dyddio'n ol i'r canol oesoedd. Edrychwch am yr odynau calch mewn cyflwr da ar ymyl y ffordd i Gomin Rhydri.
Sut i gyrraedd:
Caerffili yw'r dref neu'r pentref agosaf.
O ganol tref Caerffili, ewch ar hyd Ffordd y Fan i gyfeiriad Comin Rhydri. Ewch am 500m heibio'r parc diwydiannol i faes parcio ar ochr chwith y ffordd. Cewch gerdded i'r coetiroedd o feysydd parcio Caerffili a Chomin Rhydri. Mae bysiau'n rhedeg i dref Caerffili sydd yn agos i'r coetiroedd.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 172 863
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Mynedfa Porth Caerffili
Cyfleusterau:

Gweithgareddau:


![]() |
Mynediad agored i farchogwyr |
Cyswllt:
Emma Felkin
0300 068 0300
e-bost: emma.felkin@forestry.gsi.gov.uk

