Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Gyrfa Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Carn

Am Gyrfa Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Carn

Mae gan Ffordd Goedwig Cwm-carn a’r Ganolfan Ymwelwyr rywbeth i’w gynnig i’r teulu cyfan. Mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Caerffili, a gallwch brynu lluniaeth ysgafn ac anrhegion yma yn ogystal â chael gwybodaeth ynghylch beth y gallwch ei wneud yn yr ardal. Mae’r Ffordd Goedwig yn saith milltir o hyd a bydd yn eich arwain drwy goetiroedd hardd gyda golygfeydd trawiadol. Mae yma saith safle picnic sydd wedi’u seilio ar wahanol themâu, rhai gyda chyfarpar chwarae ac eraill gyda cherfluniau. Ceir yma hefyd lwybrau troed, llyn ar gyfer pysgota, a llwybr beicio mynydd cyffrous - dewch i weld drosoch eich hun.Mae saith maes parcio ar hyd Gyrfa Goedwig Cwm Carn, pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i ymwelwyr, o gerfluniau i fannau chwarae a chyfleusterau BBQ.

Amserau Agor: 

Mawrth 11am - 5pm

Ebrill - Awst 11am - 7pm

Medi - Hydref 11am - 5pm

Tachwedd - Chwefror 11am - 4pm (penwythnosau'n unig)

Chwefror hanner tymor 11am - 4pm (yn amodol ar y tywydd, ffoniwch cyn ymweld)

SYLWER: Mynediad diwethaf 1 awr cyn amser cau.

Prisau

Beic Modur - £3.00

Car - £5.00

Bws Mini - £10.00

Tocyn Tymor - £20.00

Sylwer fod tocynnau ddim ond yn ddilys ar gyfer un mynediad i'r Dreif.

Gellir prynu tocynnau tymor o'r Caban Talu yn ddyddiol o 11:00am

Sut i gyrraedd:

Mae Rhodfa Coedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwmcarn yng Nghoedwig Cwmcarn sy'n rhan o Goedwig Cwmcarn.
Arwyddion Gyrfa Goedwig oddi ar yr M4.
Fe leolir y Ganolfan Ymwelwyr (sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) tua hanner milltir o Gwmcarn ac mae'r rhodfa yn cychwyn tua hanner milltir ymhellach ar hyd yr un ffordd. Côd Post NP11 7FA
Rhisga yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 235 940
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:

ToiletsInformationParkingEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest ShopOther Facilities
Visitor Centre

Mae croeso cynnes yn eich aros yma ym mlaen y cwm. Galwch i mewn i gael lluniaeth ysgafn, cofroddion, rhoddion a chrefftau lleol.

Gweithgareddau:

WalkingForest DriveWildlife ActivitiesBarbecuePlay AreaView PointOther Activities
Cycling Twrch
Y Mynydd
Educational Mae'r Rhodiwr Hamdden ar gael ar gyfer grwpiau ysgol a chymuned, gan gynnig rhaglen helaeth wedi ei theilwra i gwrdd â'ch anghenion. Pecyn addysg ar gael.
Camping Wedi ei leoli gyferbyn a'r canolfan ymwelwyr ac i lawr yr afon o'r llyn, mae'r safle gwersylla yn ymgartrefu'n hyfryd ochr yn ochr â Nant Carn. Yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sirol Caerffili, mae'r safle yn cynnig lle ar gyfer 40 o garafanau neu bebyll a buddion o doiled modern a chyfleusterau cawod, ynghyd â man cael gwared â gwastraff cemegol a man cysylltu i drydan. I archebu lle ar y safle ffoniwch y Canolfan Ymwelwyr ar (01495) 272 001.

Cyswllt:

Cwmcarn Visitor Centre
cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk
01495 272001

European logo

Beth sydd o ddiddordeb

Os hoffech chi drefnu dathliad neu ddigwyddiad yng Nghwmcarn yna cysylltwch a ni ar 0300 068 0300.

Nodwch os gwelwch yn dda mae tal mynediad ar gyfer y Gyrfa Goedwig

Os fydd yna eira gall y cyfleuster fod ar gau i gerbydau, ac i osgoi cael eich siomi yn ystod tywydd gwael holwch ynghylch ar sefyllfa drwy ffonio'r canolfan ymwelwyr ar 01495 272001.

Ffurflen Llwybr Twrch>
412Mb PDF

Ffurflen Llwybr - Y Mynydd (PDF) 1.83Mb


Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol