Am Llwybr Fishpools
Ychydig ymlaen, mae’r cyntaf o ddwy olygfan ar y llwybr; gellir eistedd ar fainc yno i fwynhau’r golygfeydd hardd i’r gorllewin, ar draws y cwm tuag at Lanfihangel Rhydieithon, a’r bryniau o gwmpas Abaty Cwm Hir a Llandrindod yn y pellter.
Mae dolen Turberry hanner ffordd ar hyd y llwybr, sef ardal ag iddi werth cadwraeth uchel sy’n rhoi cynefin gwerthfawr yn y goedwig, gan fod ynddi’r math o lystyfiant a gafwyd cyn pori dwys â defaid a phlannu coed. Mae llwybr byrrach yn ôl i’r maes parcio o’r pwynt hwn; dilynwch yr arwyddion.
Ymhellach ymlaen ar y llwybr, mae mainc wrth yr ail olygfan i allu mwynhau’r golygfeydd i’r dwyrain, i lawr dros bentref Bleddfa a thuag at gwm Llugwy, a’r hen safle brwydr ym Mhyllalai yn y pellter. Oddi yma, â’r llwybr tuag i lawr a thrwy ardal â chonifferau mawr, sy’n dipyn o gyferbyniad i’r coed cymharol ifainc. Mae’r coed aeddfed yma’n gynefin nythu delfrydol i adar ysglyfaethus mawr fel y Boda a’r Gosog. Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen allan ac i ffwrdd o’r conifferau mawr yma, i gwblhau’r llwybr cylchol yn ôl i’r maes parcio. Nid yw’r daith gerdded yn llafurus iawn, ond argymhellir gwisgo esgidiau cerdded synhwyrol.
Sut i gyrraedd:
Penybont, Presteigne, a Knighton yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Mae'r mynedfa tua 6 milltir o Penybont ar yr A488.
Cyfeirif Grid yr OS: SO188683
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Bywyd Gwyllt
Mamaliaid: Mae'r ardal gyfan yn llawn bywyd gwyllt a dylech gadw llygad ar agor am Iwrch, Llwynogod a'r Mochyn Ddaear yn enwedig yn y bore bach neu'r prynhawn hwyr. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear
Adar: Mae llawer o adar gyda'r Pila Gwyrdd a'r Groesbig i fyny yn uchel yn y goedwig yn bwydo ar conifferiaid. Wrth ochrau'r goedwig ceir bwncathod a barcudiaid sydd yn dod yn mwy gyfarwydd yn yr ardal yma. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() ![]() |
Dynodiad llwybr:
|
| Hyd y llwybr: 2.7 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 2 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor Rhan o llwybr yma ar gau ar hyn o bryd oherwydd Gweithrediadau Coedwigo. Sylwch ar yr arwyddion lleol os gwelwch yn dda |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Nick Whythe Rheolwr Ardal Lleol 0300 068 0300 e-bost: nick.whythe@forestry.gsi.gov.uk |





