Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr y Rhaeadrau

Am Llwybr y Rhaeadrau

O'r maes parcio, cerddwch trwy'r bwa pren a wnaed ar ffurf par o fwyeill a'u pennau'n sownd mewn plocyn o bren. Mae'r naill ar ffurf maenfwyell i gynrychioli hanes hynafiaethol yr ardal, y llall yn fwyell fodern sydd yn cynrychioli coedwigaeth heddiw.

Mae'r llwybr yn arwain i lawr at Afon Hafren, gyda llwybr estyll yn mynd a chi ar hyd glannau'r afon. Yma mae'r coed yn sefyll yn dal ac yn fawreddog gyda heulwen fraith dros wyneb y dwr. Mae'r llwybr yn arwain at y Rhaeadr sydd yn rhoi'i enw i'r rhodfa hon. Mae llwyfan uchel yn rhoi lle ichi eistedd i fwynhau'r olygfa. Defnyddiwyd y pwll dwfn o dan y rhaeadr gan genedlaethau o fugeiliaid i olchi eu defaid. Ar y glannau ochr draw mae olion ou corlannau i'w gweld o hyd.

O fan hyn mae llwybr y Rhaeadr yn symud i ffwrdd o lannau'r afon trwy'r coetir. O fan hyn y mae'r llwybr yn eich arwain yn ol i'r maes parcio. Dyluniwyd y llwybr mewn partneriaeth a Chymdeithasau lleol i'r Anabl. Mae'n hawdd ei ddilyn, ac mae'r arwyneb yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer pob oedran a gallu. 

 

Sut i gyrraedd:

Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhydybenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 857 869
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Adar: O bosibl byddwch yn cael cip ar Foda'n cylchynu uwchben neu Wyddwalch yn hela ar ymyl y goedwig. O bryd i'w gilydd bydd Sgrech y Coed yn fflachio'n las ymhlith y coed ac mae'r Trochydd yn ymwelydd cyson a'r afon. O bryd i'w gilydd cewch weld haid o'r Groesbig yn bwydo ar gonau'r coed.

Cynefinoedd: Mae'r dwr clir yn rhoi bywyd i'r ystod o fwsogl, cen a rhedyn a warchodir gan y llwybr estyll. Mae nentydd bychain yn croesi'r llwybr yn aml a nhw sydd yn cynnal yr awyrgylch gwlyb a'r llystyfiant cysylltiedig. Yn ystod yr hydref, cadwch lygad allan am wahanol fathau o fadarch a ffwng y goedwig.

Safle Picnic Rhydybenwch: Cyfleusterau.
ToiletsInformationParkingEasy Access
Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
½ milltir
Amser bras am y llwybr:
Hanner awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Jim Ralph
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW.

fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.