Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Y Wal

Am Y Wal

Dyma rai o'r disgyniadau trac unigol gorau yn y DU. Mae'r llwybr i bob pwrpas yn croesi ochr Ogleddol Dyffryn Afan ar drac unigol sy'n amrywio o ran ei natur o gyflym, agored a rhwydd i dynn, technegol a gwreiddiog.

Cewch sawl golygfa arbennig dros y dyffryn a'r arfordir, ac mewn rhai mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored iawn.

Mae'r ffordd tuag at y trac unigol yn rhannu rhan o'r llwybr seiclo isel i deuluoedd a llinell yr hen reilffordd, felly cofiwch ystyried y llu o bobl eraill sy'n defnyddio'r goedwig wrth reidio, os gwelwch yn dda.

          -------------------------

2/9/11 Mae adrannau newydd y llwybr ar 'Y Wal' yn awr wedi agor ac wedi cael eu henwi

Alpha - o'r danffordd ger y ganolfan ymwelwyr i lawr at y bont

Elevator - o'r bont i fyny at y Llwybr Rheilffordd / Llwybr Coch ger yr hen bont

Omega - o'r Llwybr Rheilffordd / Llwybr Coch i lawr at y bont.

Yr adrannau hyn o'r llwybr yw'r rhannau cyntaf o lwybrau'r Ganolfan Ragoriaeth / Cytrasedd sydd wedi cael eu hariannu ac y mae llawer mwy i ddod.

SYLWER: Darllenwch y tudalen 'Graddau Llwybrau' cyn cychwyn ar y llwybr i wneud yn siwr mai'r llwybr hwn yw'r un gorau i'ch lefel o ffitrwydd a phrofiad.

Gall llwybrau fod yn llithrig yn ystod tywydd garw. Cymerwch ofal yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Sut i gyrraedd:

Cynonville a Neath yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.

Wedi ei leoli ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Edrychwch allan am arwyddion am Ganolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan.

Cyfeirif Grid yr OS: SS820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Canolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest ShopOther Facilities
Graddfa llwybr:
Difficult
Dynodiad llwybr:
Hyd y llwybr:
23km tua 14 milltir
Amser bras am y llwybr:
1.5 - 3 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Howard Sims
Mountain Bike Ranger

e-bost: howard.sims@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Canllaw Llwybr Beicio Afan
3,708kb PDF

Canllaw Rhifo'r Caloriau Beicio Afan
1,080kb PDF Newyddion am y llwybrau : Mae cyswllt newydd W2 gydag arwyddbyst o Fryn Bettws Lodge i Parsons Folly bellach yn ei le. Mae hyn yn golygu y gall beicwyr gael mynediad i lwybrau'r W2, Whites Levels a'r Wal o'r llwybr hwn. Mae hefyd yn caniatáu i feicwyr ar Lwybr y Wal i fynd ar adrannau'r 373 a Graveyard am yr ail dro cyn dechrau ar y disgyniad terfynol.


Tudalennau cysylltiedig