Am Llwybr Crib Gyfylchi
Mae’r llwybr hwn, sy’n cynnig cryn her, yn croesi Afon Afan yng ngwaelod y cwm ac yna’n dringo drwy goetiroedd Llarwydd, Pîn a Sbriws hyd at uchder o 1,000 o droedfeddi! O’r safle hwn cewch olygfa odidog o’r dyffryn islaw. Cyn mynd i lawr unwaith eto, mae’r llwybr yn croesi drwy diroedd agored ffermydd mynydd nes cyrraedd adfeilion Capel Gyfylchi, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif. Bu’r capel hwn unwaith yn un o gysegrfannau Methodistiaeth Gymreig.
Sut i gyrraedd:
Cynonville a Neath yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Wedi ei leoli ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Edrychwch allan am arwyddion am Ganolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
Dynodiad llwybr:
|
| Hyd y llwybr: 5 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 2 a hanner awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Jon Price 0300 068 0300 e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk |












