Am Llwybr Gard y Brenin
Mae yna gyfres o lwybrau clywedol MP3 ar gael i'w llawr lwytho nawr, yn rhad ac am ddim, dim ond i chi glicio ar y cyswllt sydd ar y dudalen dde.
Mae’r llwybr pob gallu glas wedi’i gyfeirbwyntio’n eich arwain i weld Ffynidwydd Douglas, y coed mwyaf yng Nghoed y Brenin ochr yn ochr ag Afon Mawddach. Mae llwybr melyn, sy’n addas i gadeiriau gwthio, yn parhau o’r “Brenin” i’r “Pencampwr” mewn dolen fer sy’n disgyn ar hyd yr heol yn ôl i’r maes parcio.
Mae fersiynau Braille o’r pecyn cerdded ar gael a gallwch eu cael o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Sut i gyrraedd:
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar yr A470 a throwch i’r dwyrain ychydig i dde o bentref Ganllwyd, 200m i ogledd Gwesty Tyn y Groes. Mae’r maes parcio’n 300m i lawr y bryn wrth ochr afon Mawddach.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 730 233
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Tyn y Groes maes parcio a safle picnic: Cyfleusterau. |
![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() ![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Llwybr pob gallu glas wedi’i gyfeirbwyntio a llwybr teulu melyn wedi’i gyfeirbwyntio. |
| Hyd y llwybr: 850m - 1.1km milltir |
| Amser bras am y llwybr: 20 - 30 munud |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk |





