Am Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur
Mae yna gyfres o lwybrau clywedol MP3 ar gael i'w llawr lwytho nawr, yn rhad ac am ddim, dim ond i chi glicio ar y cyswllt sydd ar y dudalen dde.
Llwybr wrth ochr yr afon ar draciau coedwig, addas i gadeiriau gwthio, i raeadrau hardd Mawddach a Phistyll Cain, mae’r llwybr yn mynd heibio’r hen weithfeydd aur ar hyd y ffordd. Mae llwybr byrrach glas wedi’i gyfeirbwyntio’n dychwelyd dros y bont aerial bren tra bod llwybr melyn hwy’n parhau i bont Bailey cyn croesi’r afon a dychwelyd i’r maes parcio ar hyd yr heol. Hefyd mae hwn yn llwybr seiclo teuluol felly cofiwch fod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill.
Mae fersiynau Braille o’r pecyn cerdded ar gael a gallwch eu cael o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Sut i gyrraedd:
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
O’r ganolfan ymwelwyr, anelwch tua’r de ar yr A470 am 2 filltir. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i’r chwith yn syth ar ôl yr arwydd cyflymder uchaf 40mya. Dilynwch yr isffordd hon dros bont faen a pharhewch gan ddilyn yr heol ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae’r maes parcio ar ddiwedd yr heol darmac wedi tua 1.5km (ewch heibio i faes parcio Pont Cae’n y Coed ar y ffordd).
Cyfeirif Grid yr OS: SH 716 277
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Bywyd Gwyllt
Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Hydd brith, Mochyn daear, Dyfrgi
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber
| Tyddyn Gwladys maes parcio a safle picnic: Cyfleusterau. |
![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Glas a Melyn |
| Hyd y llwybr: 3.7 - 5.7km milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1.5 - 2.5 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk |




