Am Y Llwybr Llosgfynydd
Dilynwch gyfuniad o lwybrau goedwig, isffyrdd a llwybrau cerdded anwastad a garw, gydag arwyddbyst, ar daith gerdded hirbell gylchol sy'n ymweld â nifer o nodweddion allweddol y goedwig gan gynnwys cors copr. Ar hyd y daith mae yna 5 panel sydd yn rhoi cymorth i chi archwilio hanes folcanig ffyrnig Coed y Brenin. Mae'r llwybrau yn ymweld â Moel Hafod Owen, pwynt uchaf y goedwig. Ewch yno yn barod am ddiwrnod hir allan yn rhannau mwyaf gwyllt y goedwig.Os ydych am gael ragor o wybodaeth fanwl ar Ddaeareg yr ardal yna a fyddech cystal â llwytho i lawr y canllaw technegol sydd wedi ei leoli ar ochr dde'r dudalen
Sut i gyrraedd:
Dolgellau, Porthmadog, Bala, Barmouth, a and Machynlleth yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
O'r Canolfan Ymwelwyr ewch i gyfeiriad y De ar yr A470 am 2 filltir. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch yn syth i'r chwith ar ôl yr arwydd cyfyngder cyflymder 40mya. Dilynwch yr isffordd dros bont carreg a pharhewch ar hyd y ffordd i'r dde gyda'r afon Mawddach islaw. Fe leolir y maes parcio tua chwarter milltir i lawr y ffordd ar yr ochr dde ar ben blaen y bont Beili.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Pont Caen Coed maes parcio: Cyfleusterau. |
![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Orange |
| Hyd y llwybr: 7 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 4-6 hrs |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk |



