Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Copr Glasdir

Am Llwybr Copr Glasdir

Mae yna gyfres o lwybrau clywedol MP3 ar gael i'w llawr lwytho nawr, yn rhad ac am ddim, dim ond i chi glicio ar y cyswllt sydd ar y dudalen dde.

Bydd y llwybr yn mynd a chi drwy hen fwyngloddiadau copr Glasdir lle y cafwyd copr rhwng 1852 a 1914. Yma dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore y dull patent o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew. Dyma'r dull a ddefnyddir ledled y byd hyd heddiw. Byddwch yn ofalus I beidio crwydro oddiar y llwybrau am fod yr hen weithredoedd yn beryglus.

Yn ogystal mae yna faes parcio i'r anabl yn unig gerllaw min y ffordd ar lefel uchaf y Gwaith Copr, sydd yn arwain at lwybr pob gallu sy'n dilyn yr hen ffordd dram i'r olygfan wych sydd yn edrych i lawr dros adfeilion o weithfeydd mwyn a'r bryniau o gwmpas De Eryri.

Mae fersiynau Braille o’r pecyn cerdded ar gael a gallwch eu cael o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Sut i gyrraedd:

Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Dwyrain o’r A470 yn dilyn yr arwyddion twristiaeth brown ar gyfer Tyn y Groes. Dilynwch yr heol darmac i’r de heibio safle picnic Tyn y Groes am ychydig dros gilometr. Mae’r maes parcio ar y dde gyda safle picnic yn dro bach i ffwrdd dros yr heol.

Cyfeirif Grid yr OS: SH 716 277
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Hydd brith, Mochyn daear

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

HEN GWAITH GOPR, GLASDIR, COED-Y-BRENIN

Glasdir maes parcio a safle picnic: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
1 milltir
Amser bras am y llwybr:
1.5 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Graeme Stringer
Rhodiwr Hamdden

e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

 


Canllaw Llwybr Copr Glasdir


148kb PDF

Tudalennau cysylltiedig