Am Llwybr Coed Y Garth
Mae bwrdd arddangos man cychwyn Comisiwn Coedwigaeth Cymru sydd wedi ei leoli wrth ochr y Llwybr Mawddach, yn nodi'r fynedfa i'r cellïoedd amlwg o goetir llydanddail aildyfol sydd wedi ei lleoli hanner ffordd rhwng pentrefi Penmaen-pwl a Morfa Mawddach. Nid oes yna fynediad mewn cerbyd i'r man cychwyn.
Gall dargyfeiriad bychan i rai sy'n cerdded neu feicio ar hyd Llwybr Mawddach eich arwain fewn i goedwig dderw aildyfol Coed y Garth. Mae gwaith o waredu coed conwydd anfrodorol, gan Brosiect Coedwigoedd Derw Meirionnydd, wedi agor allan golygfeydd godidog i lawr y foryd ac ar draws y dyffryn at gopa Diffwys. Fe osodwyd byrddau picnic a meinciau yn awr ac yn y man ar hyd y llwybr. Yn bennaf mae'r llwybr yn dilyn ffyrdd y goedwig a llwybrau troed heb darmac ac yn cynnwys sawl rhes o risiau.
Sut i gyrraedd:
Arthog, Penmaenpool, Morfa Mawddach, Dolgellau, a Barmouth yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Lleolir Coed y Garth ar ochr foryd Mawddach a gellir mynd fewn iddo drwy gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Mawddach o un o feysydd parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhenmaen-pwl (4.5km i'r Gogledd Ddwyrain) neu Forfa Mawddach (4.5km i'r De Orllewin). Gall dod o hyd i'r ddau faes parcio oddi ar yr A493 rhwng Y Friog a Dolgellau.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Coed y Garth: Cyfleusterau. |
![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
Dynodiad llwybr:
|
| Hyd y llwybr: 2.1 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1 |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk |






