Am MinorTaur
Fydd rhan y "White Bull" ar gau tan y 4 fed o Mai, dilynwch y gwyriadau os gwelwch yn dda.
Cyflwyno llwybr beicio mynydd newydd ar gyfer Parc Goedwig Coed y Brenin
Cael ei adeiladu rhwng mis Medi 2010 a Mis Rhagfyr 2013
Nod y llwybr newydd i'w cyflwyno beicio mynydd oddi ar y llwybr untrac i rai hynny sy'n dechrau beicio mynydd. Bydd y llwybr yn llenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth bresennol yng Nghoed y Brenin , sef rhwng beicio ar hyd ffyrdd coedwig a llwybrau 'anodd' sydd wedi marcio'n goch. Mae'r dyluniad nid yn unig yn ystyried anghenion beicwyr newydd a canolradd ond hefyd teuluoedd a phlant ifanc a beicwyr gydag anabledd. Rydym am i'r llwybr sydd wedi cael ei farcio'n las 'canolradd' i fod mor gynhwysol â phosibl.
Fydd y llwybr yn cychwyn o tu cefn i'r ganolfan ymwelwyr (edrychwch allan am 'gwaith celf' sy'n hysbysu man cychwyn y llwybr) ac yna yn mynd tuag at gyfres o droeon sy'n arwain o lwybr beicio teuluol 'Yr Afon' , gan ail ymuno ag ef tua bob cilomedr. Fydd y llwybr tua 10 cilomedr/ 6 milltir yn llwyr ond fedrwch ddewis gwneud cwpwl o adrannau byrrach os ydych yn dymuno. Fydd y llwybr 'MinorTaur' newydd fel 'Yr Afon' yn ymweld â rhaeadrau godidog a gwaith aur Gwynfynydd gan ei wneud yn fan stopio delfrydol ar hyd y ffordd.
Fel mae'r gwaith o adeiladu'r llwybr yn mynd yn ei flaen fyddwn yn medru agor rhannau o'r adrannau newydd mor gynted maent wedi cael eu hadeiladu ac wedi setlo. Fedrwch gael y newyddion diweddaraf oddi wrth y Coedwigwr yn y canolfan ymwelwyr.
Fe ariannwyd Prosiect Canolfan Rhagoriaeth Eryri yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Gydgyfeiriol yr EU drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru
Dolen 1 (3 cilomedr)
Dyma'r byrraf o'r opsiynau sydd ar gael, Beiciwch ar hyd First Steps tuag at ddisgynfa gyffrous y Slipway cyn dychwelyd ar hyd ffordd y goedwig.
Dolen 2 (5 cilomedr)
ychwanegiad at ddiwedd
Dolen1 ac yn eich arwain ar hyd White Bull tuag at y bont Bailey, gyda golygfeydd fewn i geunant Mawddach, cyn dychwelyd ar hyd traciau sengl Naxos a Hwyl Ddu.
Sut i gyrraedd:
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 3 milltir |
| Amser bras am y llwybr: |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Andy Braund e-bost: andy.braund@forestry.gsi.gov.uk |








