Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Alwen

Am Llwybr Alwen

Agorwyd Llwybr Alwen yn swyddogol ar 21 Gorffennaf 2006 gan greu mynediad newydd i gerddwyr a beicwyr i fwynhau Mynydd Hiraethog. Roedd y llwybr yn fenter ar y cyd rhwng y Comisiwn Coedwigaeth a'u partneriaid. Mae'r llwybr cylchol, arwyddedig, hawdd ei ddilyn newydd o amgylch Cronfa Alwen tua 7.5 milltir (11 cilomedr).

Fyddwch yn dilyn llwybrau a thraciau'r Comisiwn Coedwigaeth wrth ymyl yr afon ac i fyny i weundir Mynydd Hiraethog. Mae'r golygfeydd o amgylch y gronfa'n rhyfeddol o amrywiol gyda rhan brydferth ar hyd lan y dyfroedd, ac o'r lleoliad uchel ar y gweundir fedrwch weld golygfeydd syfrdanol. Ar hyd y ffordd fe ddewch o hyd i 6 panel darluniadol, sy'n cynnig gwybodaeth am y bywyd gwyllt, diwylliant a chwedlau sy'n gysylltiedig â'r ardal, gan gynnwys stori'r 'Fuwch Frech'.

Mae yna lawer o atgofion o'r gorffennol ar wasgar ar hyd y llwybr; i'r rhai hynny sy'n hoff o natur ceir yna rhywogaethau prin o Adar, Pryfetach a'r Wiwer Goch anghaffaeladwy. Ffurfiwyd llwybrau cyswllt i'r Llwybr Brennig sefydledig sydd gerllaw, gan greu 20 milltir o lwybrau cerdded a beicio di-dor i bobl o bob gallu, sy'n addas iawn i deuluoedd.

Sut i gyrraedd:

Cerrigydrudion yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Wrth ddilyn ffordd y B4501 i’r gogledd o Gerrigydrudion fe welwch arwydd at dro i’r chwith i’r goedwig yn fuan ar ôl cyffordd Pont yr Alwen. Dilynwch ffordd y goedwig drwy’r tyddyn ac yna cymerwch y tro cyntaf i’r chwith a pharcio wrth ymyl yr argae.

Cyfeirif Grid yr OS: SH955530
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/


Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
blue
Hyd y llwybr:
7.5 milltir
Amser bras am y llwybr:
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Mike Whitley
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk

European logo

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd – Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd amodau tywydd anffafriol. Byddwch yn ofalus iawn yn y goedwig. Dylech wisgo esgidiau addas bob amser.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.


Safleoedd defnyddiol