Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Pob Gallu Nercwys

Am Llwybr Pob Gallu Nercwys

Llwybr cylchol hyfryd yn cychwyn naill ai o fynedfa’r goedwig i’r gogledd neu’r de. Yn gymharol wastad a di-draffig mae’r llwybr yma’n boblogaidd gan gerddwyr, beicwyr (yn enwedig teuluoedd) a marchogwyr.

Sut i gyrraedd:

Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O’r A494 i’r gorllewin o’r Wyddgrug ym mhentref Gwernymynydd, dilynwch Ffordd Glyndwr (ger tafarn Yr Enfys) ac ewch tua’r de. Yn y groesffordd cyntaf ewch yn syth ymlaen i Ffordd Cae Newydd. Mae’r ffordd yma yn eich arwain i’r cornel gogledd- dwyrain o’r goedwig ac arwydd o lechen ‘Coed Derw’r Mileniwm’. Ewch i’r dde fan yma ac mae’r maes parcio tua 150m ar y dde.

Cyfeirif Grid yr OS: SJ218593
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Adar: Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ar y troellwyr sy’n nythu yn y goedwig yma ac mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Dinbych yn cynnig teithiau tywysedig diwedd mis Mai i wrando arnynt. Hefyd mae’r Barcud Coch wedi cael ei sbotio yn yr ardal yma gan weithwyr COmisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr, Barcud coch

Cynefinoedd: Un o nodweddion y llwybr yw Llyn Ochyn, sydd yn gynefin cyforgors ucheldir sydd yn anghyffredin yn y rhan yma o Ogledd Cymru. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Cors mynydd-dir

Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
Pyst pren wedi'u marcio'n glir
Hyd y llwybr:
3 milltir
Amser bras am y llwybr:
1 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Steve Crosby
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW

fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.