Am Marin
Mae Llwybr Marin yn llwybr beicio mynydd go iawn ym mhob ystyr. Mae dringfeydd anhygoel, disgyniadau anghredadwy, llwybr sengl gwych a golygfeydd godidog yn ei wneud yn llwybr bythgofiadwy. Mae'r rhan fwyaf o'r dringfeydd, ond nid pob un, ar ffyrdd a lonydd coedwig sy'n rhoi amser i chi edmygu mynyddoedd Eryri, ac mae'r holl ddisgyniadau ar lwybr sengl. Mae hwn yn amrywio o rannau tyn, technegol a chreigiog i rannau agored sy'n llifo o goedwig dywyll i gribau agored.
Sut i gyrraedd:
Llanrwst yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfarwyddiadau:
Trowch tua'r gorllewin oddi ar y B5106, yn ymyl Castell Gwydyr, Llanrwst, ac i fyny ffordd gul trwy'r goedwig a chymerwch y ffordd goedwig gyntaf ar y chwith sydd ag arwydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru 'Sawbench/Mainc Lifio' arni.
Cyfeirnod Grid yr OS: SH 764 576
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cyfeirif Grid yr OS: SH 764 576
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 16 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 2-4 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Andy Braund e-bost: andy.braund@forestry.gsi.gov.uk |

