Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Geirionydd i crafnant

Am Geirionydd i crafnant

Saif Llyn Geirionydd yn ddigynnwrf ymysg bryniau coediog a chorslwyni naturiol ar hyd ei ymylon. Mae'r llwybr coedwig yn arwain igam-ogam i fyny at ddringfa garegog ar y diwedd. Mae rhodfa goed yn mynd a ni ar draws y bryn, ac yna mae disgynfa garegog hir yn dirwyn i lawr trwy goedwig drwchus i lecyn lle y gwarchodir pen llyn Crafnant gan glogwyni creigiog. Ychydig ymhellach ar ochr dde'r ffordd mae yna gaffi, sydd ar agor yn yr haf. Wrth ddychwelyd yr un ffordd, mae'r ddringfa'n fwy serth ac yn hwy, ond y wobr a geri am hynny ar y ffordd i lawr yw golygfa agored dros ardal Geirionydd.

Sut i gyrraedd:

Llanrwst yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Cyfarwyddiadau:

Gallwch gyrraedd y llyn mewn car o Drefriw neu o Gastell Gwydyr, Llanrwst (dilynwch arwyddion Geirionnydd), ar ffordd gul sy’n mynd drwy bentref bach Llanrhychwyn, neu ar y ffordd un trac droellog drwy Goedwig Gwydyr o’r Tŷ Hyll neu Bont y Pair ym Metws y Coed ar yr A5 i Gapel Curig.

Cyfeirnod Grid yr OS: SH 763 603

I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfeirif Grid yr OS: SH763605
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/


Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
blue
Hyd y llwybr:
2.0 milltir
Amser bras am y llwybr:
2 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Gareth Jones

0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.