Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Cylchdaith Llyn Crafnant

Am Cylchdaith Llyn Crafnant

A'r ddechrau'r daith yma mae afon Crafnant yn byrlymu allan o'r llyn, ac ychydig o fetrau ymhellach fe welwch chi un o'r golygfeydd godidocaf yn Eryri, gan edrych o droed Llyn Crafnant tuag at dirwedd mynyddig Crimpiau a'r Creigiau Gleision. Mae'r daith hon, sydd yn addas i'r teulu cyfan gydol y flwyddyn, yn cychwyn ar hyd llwybr coediog gwastad hir ac yn troi'n fwy tonnog wrth inni nesau at glogwyn aruchel Craig Lwyd. Wedi disgynfa fer ond caregog yn ol lan y llyn, ceir golygfeydd swynol ar bob tu, ac mae llwybr hawdd yn mynd a ni o gwmpas pen y llyn. Mae'r ffordd yn ol yn mynd heibio i gaffi Crafnant, sydd ar agor yn yr haf.

Sut i gyrraedd:

Trefriw yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Cyfarwyddiadau:

Gallwch gyrraedd y llyn mewn car o Drefriw yn Nyffryn Conwy, er bod llawer o ymwelwyr yn cerdded yno o’r pentref neu o lyn cyfagos Llyn Geirionnydd, sy’n gorwedd ochr yn ochr â Chrafnant. Caiff y ddau lyn eu gwahanu gan Fynydd Deulyn. Gall cerddwyr gyrraedd y llyn hefyd o Gapel Curig.

Cymerwch y B5106 i Drefriw o Gonwy neu Fetws y Coed, yna dilynwch yr arwyddion am Lyn Crafnant.

Cyfeirnod Grid yr OS: SH 757 618

I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfeirif Grid yr OS: SH755615
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Llyn Crafnant: Cyfleusterau.
Toilets
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearEasy
Dynodiad llwybr:
yellow
Hyd y llwybr:
2.5 milltir
Amser bras am y llwybr:
2.5 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Gareth Jones

0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

 


Tudalennau cysylltiedig