Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Golygfeydd dros Ddyffryn Conwy

Am Golygfeydd dros Ddyffryn Conwy

O'r maes parcio o flaen adfeilionCloddfa Hafna, dilynwch y ffordd goedwig i fyny'r bryn drwy cymysgedd o goed pefrwydd, pinwydd a choetiroedd dailllydan. A'r ol rhyw 800m mi fyddwch yn cyrraedd ardal o goed iau, lle y ceir golygfeydd draw tuag at lan bellaf Afon Conwy. Mae'n werth dilyn gwyriad bach yma ar hyd y llwybr tua'r dde, nes cyrraedd gwylfan sy'n darparu golygfa drawiadol yr holl ffordd i lawr Dyffryn Conwy hyd at y Gogarth. Ewch yn ol i'r brif lon, a'i dilyn am ychydig tua'r dde nes cyrraedd y gyffordd, ac i'r chwith eto wrth y gyffordd. Trowch i'r chwith wrth y gyffordd, ac i'r chwith eto wrth y gyffordd nesaf. Dilynwch y ffordd goedwig,drwy goedwig o goed o gonwydd cymysg, gan basio heibio i dy ymysg y coedar y llaw chwith. Yn fuan ar ol hyn maertrywydd yn troi i'r chwith gan adael y ffordd ac yn disgyn i lawr i Gloddfa Hafna. Cymerwch ofal ar y grisiau serth sy'n arwain i lawr drwy adeiladau'r gloddfa, a dychwelwch i'r maes parcio. Mae hanes y gloddfa hon wedi'i egluro ar y paneli dehongli wrth ochr y trywydd.

Sut i gyrraedd:

Llanrwst yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Cyfarwyddiadau:

Mae maes parcio Hafna wedi’i leoli ar ffordd Nant Bwlch Haearn rhwng Castell Gwydyr ar y B5106 ger Llanrwst, a’r Tŷ Hyll ar yr A5 i’r gorllewin o Fetws-y-coed.

Cyfeirnod Grid yr OS: SH7959

I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfeirif Grid yr OS: SH792599
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Hafna: Cyfleusterau.
InformationParking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
blue
Hyd y llwybr:
1.4 milltir
Amser bras am y llwybr:
1.5 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Gareth Jones

0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.


Tudalennau cysylltiedig