Am Taith Gerdded yr Arglwyddes Mair
Mae'r trywydd byr adfywiol hwn yn mynd a ni drwy goetir cymysg sefydlog. Ar ddiwedd dringfa fer mae yna sedd yn edrych allan dros dref farchnad Llanrwst, ac ymlaen i lawr Dyffryn Conwy i gyfeiriad y mor. Mae llethrau serth Grinllwm a Chefn Cyfarfod i'w gweld yn gefnlen drawiadol i bentref tlws Trefriw. Mae'r trywydd yn dringo'n sydyn yma gan droi'n serth dros ben am ychydig tua phen yr allt, ond o hynny ymlaen gelli'r cerdded yn ddi-ymdrech. Y tu draw i'r bachdro mae yna sedd arall, lle y ceir golygfa braf o orlifdir Afon Conwy. Cyn bo hir mi ddaw Capel Gwydyr i'r golwg. Mae'n werth ymweliad, ac mae'r goriad ar gael yng Ngwydyr Uchaf. Mynediad: Does dim camfeydd ar y llwybr yma.
Sut i gyrraedd:
Llanrwst yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfarwyddiadau:
Arwyddion o'r B5106 ar gyrion Llanrwst i gyfeiriad Betws y Coed.
Cyfeirnod Grid yr OS: SH 796 609
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cyfeirif Grid yr OS: SH796608
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
Dynodiad llwybr:
|
| Hyd y llwybr: 1.5 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1.5 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Gareth Jones 0300 068 0300 e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk |




