Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Glan yr Afon

Am Llwybr Glan yr Afon

Taith gerdded addfwyn ar lan yr afon o'r maes parcio, trwy goetir cymysg yn llawn aroglau'r coed a swn dwr yn tincial. Yn ôl ar hyd lôn goed o ffawydd coprog ifanc, o dan orchudd o glychau glas yn y Gwanwyn a ffwng yn yr Hydref.

Sut i gyrraedd:

Trawsgoed yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Yn ymyl y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed. Mae'r maes parcio 1 km i'r de o Abermagwr. Trowch i'r dde ar draws y bont (arwydd: Llanilar B4575) yna trowch i'r chwith ar unwaith ac yna i'r chwith unwaith eto i mewn i'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 667 729
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Safle Picnic Gelli Ddu: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
white
Hyd y llwybr:
1 1/4 milltir
Amser bras am y llwybr:
Awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Cadwch lygad allan am y blychau adar ac ystlumod i fyny yn y coed a gwâl ffug i ddyfrgwn. Tir gwlyb gyda Gold y Gors o dan Boplys tal a reolir at ddibenion cadwraeth natur.


Safleoedd defnyddiol