Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Barcud

Am Llwybr Barcud

Mae Llwybr y Barcud yn gael ei uwchraddio ar hyn o bryd.

Mae'r llwybr hardd hwn yn addas ar gyfer pob gallu. Does dim grisiau neu gamfeydd ac mae'r ogwydd yn 10% neu lai gyda chilfannau gorffwys ar y rhannau sydd yn dringo. Â'r llwybr â chi o gwmpas ymyl y llyn lle y byddwn yn bwydo'r Barcudiaid bob dydd. Gwelir adar eraill yn ystod y bwydo hefyd, yn eu plith y Crëyr Glas, y Boncath a'r Gigfran. O bosibl y byddwch yn ddigon ffodus i weld ein Barcud Gwyn anarferol iawn.

Sut i gyrraedd:

Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.

10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd.

Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd/Llanidloes yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 718 813
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

GWYLIO BWYDO DYDDIOL Y BARCUD COCH YN CANOLFAN YMWELWYR NANT YR ARIAN

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationParkingEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest Shop
Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
Hyd y llwybr:
2/3 milltir
Amser bras am y llwybr:
½ awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Gareth Owen
-
0300 068 0300
e-bost: gareth.owen1@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Canllaw Rhifo'r Caloriau Bwlch Nant yr Arian


1,106kb PDF