Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Taith Coed Hafod

Am Taith Coed Hafod

Mae Taith Coed Hafod yn mynd heibio gwahanol fathau o goetir, gan gynnal amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt. Yn y gwanwyn, mae'n lliwgar gyda chlychau'r gog ac asaleas. Mae ei thopograffi yn gymharol ysgafn, ond mae'r golygfeydd ohono i'r afon yn y pellter, caeau'r plasty a'r pwll, ac i'r bryniau yn y pellter yn hardd iawn ac yn rhoi ymdeimlad o ddarganfod y diwedd o'r newydd. Nid yw'n llwybr crwn ac maen'n rhaid i gerddwyr sy'n dymuno dychwelyd i'r man cychwyn benderfynu ar lwybr dychwelyd trwy ddefnyddio teithiau neu lonydd ystâd eraill.

Sut i gyrraedd:

Cwmystwyth yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O Westy Arfau'r Hafod ym Mhont-ar-Fynach dilynwch y B4574 i Gwmystwyth. Ewch heibio maes parcio'r Bwa gan fynd ymlaen i lawr y rhiw. Trowch i'r dde ychydig ar ôl mynd heibio arwydd "Cwmystwyth". Ewch trwy ADAS Pwllpeiran gan fynd ymlaen i gyffordd-T a throwch i'r dde. Ewch heibio Eglwys yr Hafod gan droi i mewn i Faes Parcio'r Hafod. O Bontrhydygroes ewch tua'r gogledd ar y B4343 gan droi i'r dde ar y B4574 i gyfeiriad Cwmystwyth wrth i chi weld arwydd Hafod y Comiswin Coedwigaeth. Ewch ar hyd y ffordd am filltir. Mae Maes Parcio'r Hafod ar y dde.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 768 737
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear, Dyfrgi

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

Cynefinoedd: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Coed pinwydd, Mynydd-dir coed derw

Maes Parcio'r Hafod: Cyfleusterau.
InformationParking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
Brown
Hyd y llwybr:
Mae'r pellter o'i hamgylch o'r maes parcio tua 2 1/2 milltir
Amser bras am y llwybr:
2 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Safleoedd defnyddiol