Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Taith Ceunant Ystwyth

Am Taith Ceunant Ystwyth

Mae'r llwybr trawiadol hwn yn mynd â'r cerddwr ar ddolen hir a chul i fyny un ochr o geunant Ystwyth ac i lawr y llall. Mae'n cysylltu â Rhodfeydd y Foneddiges a'r Bonheddwr a gellir ei gerdded fel ychwanegiad i'r naill lwybr neu'r llall. Er gwaetha'r golygfeydd dramatig ar hyd y daith, mae'r graddiannau'n gymharol ysgafn, ond nid yw'r llwybr yn addas i'r rhai nad ydynt yn hoffi disgynfeydd serth ar ymyl y llwybr. Canolbwynt Taith Ceunant Ystwyth yw Pont Siân a’r Arcêd Gothig gerllaw – sef bwa maen adfeiliedig sy’n edrych dros y bont a thro yn yr afon gyda ffurfiannau creigiog rhyfeddol.

Sut i gyrraedd:

Cwmystwyth yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O Westy Arfau'r Hafod ym Mhont-ar-Fynach dilynwch y B4574 i Gwmystwyth. Ewch heibio maes parcio'r Bwa gan fynd ymlaen i lawr y rhiw. Trowch i'r dde ychydig ar ôl mynd heibio arwydd "Cwmystwyth". Ewch trwy ADAS Pwllpeiran gan fynd ymlaen i gyffordd-T a throwch i'r dde. Ewch heibio Eglwys yr Hafod gan droi i mewn i Faes Parcio'r Hafod. O Bontrhydygroes ewch tua'r gogledd ar y B4343 gan droi i'r dde ar y B4574 i gyfeiriad Cwmystwyth wrth i chi weld arwydd Hafod y Comiswin Coedwigaeth. Ewch ar hyd y ffordd am filltir. Mae Maes Parcio'r Hafod ar y dde.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 768 736
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear, Dyfrgi

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

Cynefinoedd: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Coed pinwydd, Mynydd-dir coed derw

Maes Parcio'r Hafod: Cyfleusterau.
InformationParking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
green
Hyd y llwybr:
1 milltir
Amser bras am y llwybr:
awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.


Safleoedd defnyddiol