Am Taith Gerdded Coedwig Cwm Rhaeadr
Ewch am dro a amgylch rhan isaf y cwm a chael cipolwg o'r rhaeadr drwy'r coed. Mae yna lawer o lwybrau cysylltu sy'n golygu bod modd gwneud y daith yn fyrrach. Mae'r llwybr yn addas i deuluoedd a angen lefel dda o ffitrwydd. Argymellir esgidiau cerdded sydd a gafael da.
Sut i gyrraedd:
Cil-Y-Cwm a Llanymddyfri yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Dilynwch yr arwyddion am Gil-y-Cwm o'r A482 neu'r A483 (ger Llanymddyfri). Wedi cyrraedd pentref Cil-y-Cwm ewch ymlaen tuag at Gronfa Ddwr Llyn Brianne nes i chi weld arwyddion am Gwm Rhaeadr.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 765 423
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| : Cyfleusterau. |
![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 2.5 milltir |
| Amser bras am y llwybr: Awr a hanner |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Llanymddyfri Office 0300 068 0300 e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk |




