Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr beicio Cwm Rhaeadr

Am Llwybr beicio Cwm Rhaeadr

Ar y llwybr mae modd mwynhau golygfeydd godidogo'r cwm bychan, ac mae'r beicio ar y trac sengl lawn cystal.

Byddwch yn gweld golygfeydd bendigedig o'r rhaeadr wrth iddo ddisgyn dros ysgafell greigiog lle mae'n arllwys oddi ar y Fynydd Mallaen. Yn y pellter mae Bannau Brycheiniog a Dyffryn Tywi yn cwblhau'r panorama. Wrth ddisgyn cewch eich cyffroi wrth i chi feicio ar hyd y llwybr troellog, neidio dros y grisiau creigiog a llithro drwy goed aeddfed ar y llethrau isaf. Mae llwybr Cwm Rhaeadr yn enghraifft o Gymru ar ei gorau, yn gyfuniad o brydferthwch a gorfoddel.

Sut i gyrraedd:

Cil-y-Cwm yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Dilynwch yr arwyddion am Gil-y-Cwm o'r A482 neu'r A483 (ger Llanymddyfri). Wedi cyrraedd pentref Cil-y-Cwm ewch ymlaen tuag at Gronfa Ddwr Llyn Brianne nes i chi weld arwyddion am Gwm Rhaeadr.

Cyfeirif Grid yr OS: SN762430
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Safle Picnic Cwm Rhaeadr: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Difficult
Dynodiad llwybr:
Hyd y llwybr:
4 milltir
Amser bras am y llwybr:
45 munud
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk

Tudalennau cysylltiedig