Am Cwm Rhaeadr
Ar y llwybr mae modd mwynhau golygfeydd godidog o’r cwm bychan, ac mae’r beicio ar y trac sengl lawn cystal.
Byddwch yn gweld golygfeydd bendigedig o’r rhaeadr wrth iddo ddisgyn dros ysgafell greigiog lle mae’n arllwys oddi ar Fynydd Mallaen. Yn y pellter mae Bannau Brycheiniog a dyffryn Tywi yn cwblhau’r panorama. Wrth ddisgyn cewch eich cyffroi wrth i chi feicio ar hyd y llwybr troellog, neidio dros y grisiau creigiog a llithro drwy goed aeddfed ar y llethrau isaf. Mae llwybr Cwm Rhaeadr yn enghraifft o Gymru ar ei gorau, yn gyfuniad o brydferthwch a gorfoddel.
Sut i gyrraedd:
Cil-Y-Cwm a Llanymddyfri yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Dilynwch yr arwyddion am Gil-y-Cwm o'r A482 neu'r A483 (ger Llanymddyfri). Wedi cyrraedd pentref Cil-y-Cwm ewch ymlaen tuag at Gronfa Ddwr Llyn Brianne nes i chi weld arwyddion am Gwm Rhaeadr.
Cyfeirif Grid yr OS: SN762430
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| : Cyfleusterau. |
![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 6.7km milltir |
| Amser bras am y llwybr: 45 munud |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Llanymddyfri Office 0300 068 0300 e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk |


