Am Derwen Gwrydd
Yn nodweddiadol, mae llwybrau gwyrdd ar hyd ffyrdd coedwig neu lwybrau thynnu camlais – ond ddim yn Nghoedwig Brechfa! Roeddwn wedi bwriadu creu llwybr oedd yn denu’r beiciwr ac yn mwynhau eich synhwyrau gan roi gwir flâs o feicio oddi ar y ffordd. Wedi’I enwi ar ôl y coetir derw mae’n troelli drwodd yn ddiymdrech, mae llwybr y Dderwen yn rhoi cyflwyniad unigryw o fyd beicio mynydd i’r beiciwr ddibrofiad oddi ar y ffordd. Yn glynu’n isel i ochrau’r dyffryn, mae’r llwybr yn dechrau’n hamddenol gyda dringfa gyson a disgynfeydd hwyliog. Wrth wau drwy’r goedwig fyddwch yn dod ar draws golygfeydd hyfryd a thirwedd lyfn mewn lle sydd hyd yn hyn wedi bod yn un o gyfrinachau gorau Cymru. Sut i gyrraedd: Saif Byrgwm ar y B4310, dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Brechfa. Dilynwch yr A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin ac yno'r B4310 i gyfeiriad Brechfa.
Sut i gyrraedd:
Rhydcymerau, Abergorlech, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanbedr-Pont-Steffan, a Gaerfyrddin yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Saif Byrgwm ar y B4310, dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Brechfa. Dilynwch yr A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin ac yno'r B4310 i gyfeiriad Brechfa.
Cyfeirif Grid yr OS: SN585340
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Safle Picnic Byrgwm: Cyfleusterau. |
![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 11.0km/6.8 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1.5-2 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Llanymddyfri Office 0300 068 0300 e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk |


