Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Cerdded Abergorlech

Am Llwybr Cerdded Abergorlech

Mae’r llwybr delfrydol yma yn dilyn yr Afon Gorlech ar hyd ffyrdd y goedwig cyn croesi pont fychan at lwybr troed a dringo i fyny drwy goetir cymysg o llydanddail a chonwydd aeddfed. Mae’r yna lwybr hir a byr ar y rhodfa yma, sydd yn cael eu cyfannu gan amgylchedd goetir cyfnewidiol. Hefyd mae’r safle picnic ar ddechrau’r daith yn lle delfrydol i adael eich car. Ar gau nes clywir yn wahanol oherwydd gwaith adeiladu llwybr beicio mynydd.

Sut i gyrraedd:

Abergorlech, Brechfa, Llandeilo, Llanymddyri, Llanbedr-PontStefan, a Gaerfyrddin yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.

Mae Abergorlech yn bentref bychan yn ymyl Coedwig Brechfa ar ffordd y B4310. Dilynwch yr A482 rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanymddyfri hyd at y tro am Lansawel (B4302). Wedi cyrraedd Llansawel, dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.

Cyfeirif Grid yr OS: SN587338
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Safle Picnic Abergorlech: Cyfleusterau.
ParkingEasy Access
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
blue
Hyd y llwybr:
2 milltir
Amser bras am y llwybr:
1 awr a hanner
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Mae rhai rhannau o’r llwybr yn cael ei ddefnyddio gan feicwyr mynydd a gall fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb.