Am Gardd Goedwig Brechfa
Mae’r llwybr porffor, sy’n cychwyn o’r maes parcio, yn arwain at Ardd Goedwig Brechfa sy’n cynnwys 89 llain o wahanol rywogaethau o goed o bob rhan o’r byd. Mae’r ardd yn wahanol i arboretwm gan nad yw’n cynnwys sbesimenau unigol, ond yn hytrach grwpiau neu glystyrau o bob rhywogaeth, a gafodd eu plannu yn y 1950au. Mae’r clystyrau hyn yn awr yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i wyddonwyr sy’n edrych ar wahanol rywogaethau i’w plannu yn hinsawdd newidiol Prydain.
Mae’r lleiniau yn cynnwys rhywogaethau prin ac egsotig megis Ffynidwydden Korea, Ewcalyptws, Cochwydden Arfor, Coeden Diwlip, Ffynidwydden Fraser, Pinwydden Macedonia, Ffawydden Ddeheuol, Cedrwydden Japaneaidd, Sbriwsen Serbia, Masarnen Risgl Neidr Americanaidd, Cochwydden Sierra, Pisgwydden Dail Bach, Masarnen Arian ac eraill.
Mae’r amodau ym Mrechfa yn addas ar gyfer y rhywogaethau o goedwigoedd tymherus cefnforol llaith y byd, ac mae’r Gochwydden Arfor (Sequoia sempervirens) a’r Sbriwsen Koyama (Picea koyamae) prin, y nodwyd ei bod dan fygythiad ar Restr Goch yr IUCN, ymhlith y llwyddiannau nodedig.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y cyswllt i’r daflen.
Sut i gyrraedd:
Abergorlech, Brechfa, Llandeilo, Llanymddyri, Llanbedr-PontStefan, a Gaerfyrddin yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Mae Abergorlech yn bentref bychan yn ymyl Coedwig Brechfa ar ffordd y B4310. Dilynwch yr A482 rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanymddyfri hyd at y tro am Lansawel (B4302). Wedi cyrraedd Llansawel, dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.
Cyfeirif Grid yr OS: SN585340
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Safle Picnic Abergorlech: Cyfleusterau. |
![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
|
Dynodiad llwybr:
porffor |
| Hyd y llwybr: 5 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 3 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Llanymddyfri Office 0300 068 0300 e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk |




