Am Taith Gerdded Hen Ffordd y Plwyf
Mae'r llwybr hwn yn dilyn rhan o'r hen lwybr hynafol a fu'n Ffordd y Plwyf a phrif dramwy'r cwm o 1100 OC hyd nes iddo fynd i ddifancoll ym 1920. Cewch orffwys ar hyd y ffordd o dan yr hen goed llydanddail uwchben Afon Afan, ar y seddau a byrddau hwnt ac yma sydd yn cynnig golygfeydd ardderchog ar draws y cwm. Ewch yn ôl ar hyd Llwybr Beicio llydan Cwm Afan sydd yn dilyn hynt hen reilffordd Rhondda a Bae Abertawe.
Sut i gyrraedd:
Cynonville a Neath yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Wedi ei leoli ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Edrychwch allan am arwyddion am Ganolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan.
Cyfeirif Grid yr OS: SS 820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Glas tywyll. |
| Hyd y llwybr: 1.25 milltir |
| Amser bras am y llwybr: tri chwarter awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Jon Price 0300 068 0300 e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk |











