Am White's Level
Llwybr beicio graddedig technegol iawn gydag adrannau wedi eu noddi gan npower. Mae yna ddisgyniadau, camau i lawr a dringfeydd untrac hir. "Egni" yw'r ychwanegiad diweddaraf i'r Llwybr Beicio Mynydd 110K ym Mharc Coedwig Afan. Tra bod yr adran newydd yn cael ei enwi yn "Egni" oherwydd ei agosrwydd at fferm wynt Ffynnon Oer "npower renewables", mae'n galw am egni, sgiliau technegol a beiddgarwch oddi wrth feicwyr gan ei wneud yn ychwanegiad cyffrous i'r llwybrau.
SYLWER: Darllenwch 'Canllaw Llwybrau Beicio Mynydd' cyn cychwyn ar y llwybr i wneud yn siŵr mai'r llwybr hwn yw'r un gorau i'ch lefel o ffitrwydd a phrofiad.
Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.
Mae'n mynd yn gynyddol anodd; mae’n cynnwys cwympiadau, camau i lawr a dringfeydd un trac hir.Sut i gyrraedd:
Glyncorrwg, Port Talbot, Castell Nedd, a Abertawe yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg wedi ei leoli ym Mharc Coedwig Afan sy'n rhan o Barc Coedwig Afan.
A4107 o gyffordd 40 yr M4 arwyddedig Glyncorrwg o Gymer tua 10 milltir ar hyd yr A4107 troad llem i’r chwith i gyfeiriad Glyncorrwg.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 17km - 9 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1.5 - 3 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Howard Sims Mountain Bike Ranger e-bost: howard.sims@forestry.gsi.gov.uk |










