Am Cerddinen
Cynlluniwyd Llwybr y Griafolen ar gyfer beicwyr sy’n rhoi cynnig ar y llwybrau hyn am y tro cyntaf. Ar ôl i’r beicwyr gynhesu yn y Parc Beiciau, byddant yn dilyn Llwybr y Griafolen, gan ddringo ar hyd llwybr llydan sengl nes ei fod yn ymrannu. Mae’r ffordd i lawr yn cynnwys cyfres o droadau wedi’i bancio a throadau agored, ynghyd a phonciau a phantiau. Gellir mynd yn gyflym neu yn araf. Mae’r llwybr yna’n disgyn ac yn gorffen dan y Parc Beiciau. Gallwch fynd allan drwy’r maes parcio neu ddilyn y llwybr unwaith eto.
Sut i gyrraedd:
Merthyr Tydfil yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae Garwnant dafliad carreg i ffwrdd o'r A470 bum milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae arwyddion da yn dangos y ffordd o'r A470. Mae'r safle i'w gweld ar Fap Landranger 160 a Hamdden Allannol 12. Mae Stagecoach - rhif ffôn: 0870 6082608 - yn rhedeg cysylltiadau bws. Ar Wyliau'r Banc a Suliau trwy gydol yr haf mae Gwasanaeth Bws y Bannau'n rhedeg - rhif ffôn: 01873 853254.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 003 132
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Garwnant: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 1/3 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 5 - 15 munud |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Llanymddyfri Office 0300 068 0300 e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk |







