Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur
 

Llwybr wrth ochr yr afon ar draciau coedwig, addas i gadeiriau gwthio, i raeadrau hardd Mawddach a Phistyll Cain, mae’r llwybr yn mynd heibio’r hen weithfeydd aur ar hyd y ffordd. Mae llwybr byrrach glas wedi’i gyfeirbwyntio’n dychwelyd dros y bont aerial bren tra bod llwybr melyn hwy’n parhau i bont Bailey cyn croesi’r afon a dychwelyd i’r maes parcio ar hyd yr heol. Hefyd mae hwn yn llwybr seiclo teuluol felly cofiwch fod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill.

Sut i gyrraedd:

Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur can be started from Tyddyn Gwladys in Coed y Brenin. Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O’r ganolfan ymwelwyr, anelwch tua’r de ar yr A470 am 2 filltir. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i’r chwith yn syth ar ôl yr arwydd cyflymder uchaf 40mya. Dilynwch yr isffordd hon dros bont faen a pharhewch gan ddilyn yr heol ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae’r maes parcio ar ddiwedd yr heol darmac wedi tua 1.5km (ewch heibio i faes parcio Pont Cae’n y Coed ar y ffordd).

Cyfeirif Grid yr OS: SH 734 262

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Hydd brith, Mochyn daear, Dyfrgi

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

RHAEADR MAWDDACH, GWYN-FYNYDD

Tyddyn Gwladys: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
Glas a Melyn
Hyd y llwybr:
3.7 - 5.7km milltir
Amser bras am y llwybr:
1.5 - 2.5 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Graeme Stringer
Rhodiwr Hamdden

e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk


Beth sydd o ddiddordeb
Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Canllaw Llwybr Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur
223kb PDF


Beth sydd ymlaen

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov