Llwybr Copr Glasdir
Bydd y llwybr yn mynd a chi drwy hen fwyngloddiadau copr Glasdir lle y cafwyd copr rhwng 1852 a 1914. Yma dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore y dull patent o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew. Dyma'r dull a ddefnyddir ledled y byd hyd heddiw. Byddwch yn ofalus I beidio crwydro oddiar y llwybrau am fod yr hen weithredoedd yn beryglus.
Yn ogystal mae yna faes parcio i'r anabl yn unig gerllaw min y ffordd ar lefel uchaf y Gwaith Copr, sydd yn arwain at lwybr pob gallu sy'n dilyn yr hen ffordd dram i'r olygfan wych sydd yn edrych i lawr dros adfeilion o weithfeydd mwyn a'r bryniau o gwmpas De Eryri. Yn yr olygfan ceir blychau sain lle fedrwch wrando ar chwedl "Ceubren yr Ellyll".
Sut i gyrraedd:
Llwybr Copr Glasdir can be started from Glasdir in Coed y Brenin. Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Dwyrain o’r A470 yn dilyn yr arwyddion twristiaeth brown ar gyfer Tyn y Groes. Dilynwch yr heol darmac i’r de heibio safle picnic Tyn y Groes am ychydig dros gilometr. Mae’r maes parcio ar y dde gyda safle picnic yn dro bach i ffwrdd dros yr heol.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 737 225
Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Hydd brith, Mochyn daear
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber