Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Yr Afon

Am Yr Afon

Byddwch yn ymwybodol fod yna offer a pheiriannau adeiladu mawr ar ffordd y goedwig ar hyd dyffryn Eden tra bod llwybr newydd yn cael ei adeiladu. Cymerwch ofal.

Gellir gweld rannau mwyaf darluniaidd afon Mawddach o'r llwybr yma. Fyddwch yn mynd heibio i fwyngloddiau aur Gwynfynydd ac yn reidio ar hyd dyffryn yr afon i weld y rhaeadrau.

  • Mae'n llwybr lefel isel heb adrannau untrac ar hyd ffyrdd y goedwig, ond yn cynnwys adran fer o lwybr sydd wedi cael ei adeiladu sy'n arwain o'r canolfan ymwelwyr.
  • Tra ei fod yn llwybr hyfryd i'r teulu i'w fwynhau, ceir yna adrannau hirach o ffordd breifat dyllog a chwpl o ddringfeydd serth. Cymerwch ofal ar y ffordd yn ôl gan fod yna ddisgynfa serth ar ffordd y goedwig felly rheolwch eich cyflymdra.

Gellir dilyn llwybr clywedol MP3 " Powdwr Gwn ac Aur" ar hyd y llwybr o'r canolfan ymwelwyr, codwch gychwyniad y pyst clywedol ym maes parcio Tyddyn Gwladys. Dilynwch y cyswllt ar y dde er mwyn llwytho'r llwybrau Clywedol i lawr i'ch chwaraewr MP3.

Sut i gyrraedd:

Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.

I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.

Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 268
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Family cycling on the Yr Afon family cycle trail

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationVisitor CentreRefreshmentsForest Shop
Graddfa llwybr:
Easy
Dynodiad llwybr:
green
Hyd y llwybr:
10.8km milltir
Amser bras am y llwybr:
1-3 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Andy Braund


e-bost: andy.braund@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Go Ape at Coed y Brenin (WMV)

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.


Canllaw Llwybr Yr Afon


206kb PDF

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol