Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Pistyll y Cain

Am Llwybr Pistyll y Cain

Mae yna ddargyfeiriad mewn grym ar y llwybr oherwydd gwaith torri coed, dilynwch y ffordd arall sydd wedi cael ei farcio gan arwyddbyst. Byddwch yn ymwybodol y bydd loriau cludo coed yn defnyddio rhai o ffyrdd y goedwig.

Dilynwch yr arwyddion cyfeiriad ôl troed coch o'r maes parcio. Mae'r llwybr yma'n daith gron galed, sy'n dringo dros grib Cefndeuddwr cyn disgyn ar hyd pont carreg dros Gain uchaf, i Fwynglawdd Aur Gwynfynydd a'r pistyll ger cydlifiad y Mawddach a'r Cain. O'r fan yma mae'r llwybr yn dringo yn ôl dros y grib a thuag at y canolfan ymwelwyr. Fe ddilyna'r llwybr cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau troed serth ar arwynebedd anwneuthuredig ac anwastad. Fe argymhellir gwisgo esgidiau cadarn. Anaddas ar gyfer bygis olwynog.

Canllaw Llwybr Pistyll Cain

 

Sut i gyrraedd:

Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.

I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.

Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationVisitor CentreRefreshmentsForest Shop
Graddfa llwybr:
Hill-walking boots or similarDemanding
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
4.5 milltir
Amser bras am y llwybr:
2 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Graeme Stringer
Rhodiwr Hamdden

e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Go Ape at Coed y Brenin (WMV)

Rhybudd


Canllaw Llwybr Pistyll Cain

- Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Safleoedd defnyddiol