Am Cefn y Ddraig
Dargyfeiriadau
1. Mae gwyriad bach yn weithredol rhwng y ffordd darmac a dechrau trac sengl "Hermon". Mae hyn oherwydd gwaith cynaeafu. Nid oes unrhyw drac sengl yn cael ei golli.
2.Mae dargyfeiriad newydd wedi cael ei osod ar ôl ‘Hermon’, sy’n osgoi ychydig o ffordd y goedwig. Ni chollir unrhyw drac sengl.
Llwybrau yr effeithir arnynt yw:
• Dragons Back
• Beast
Llwybr beicio mynydd traws gwlad ddelfrydol sydd wedi aeddfedu'n dda yw'r 'Dragon's Back'. Yn flaenorol yn llwybr Karrimor, mae wedi cael rhai ychwanegiadau gwych dros y blynyddoedd. Mae'r dringfeydd heriol, trac sengl a'r disgynfeydd cyflym hir wedi ei wneud yn un o reidiau mwyaf safonol Ewrop.
Llwybr hir sydd yn eich arwain i gopa Moel Hafod Owen ar gyfer golygfeydd syfrdanol dros y parc a mynyddoedd Eryri cyn disgyn i lawr yr 'Adams family'. Dyma gyfres o ddisgynfeydd fydd yn eich gwneud i floeddio gyda phleser! Troeon disgynnol Gomez, Morticia a Pugsley. Ffordd garreg corcsgriw Lurch a gorffen gyda chyflymdra balistig Uncle Fester.
Sut i gyrraedd:
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 268
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Logos Cefn y Ddraig Goch |
| Hyd y llwybr: 31.1 km milltir |
| Amser bras am y llwybr: 3-5 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Andy Braund e-bost: andy.braund@forestry.gsi.gov.uk |







